Pris: Am Ddim
I nodi 100 mlynedd ers geni Richard Burton, bydd Dr Gethin Matthews yn olrhain hanes yr actor o Bontrhydyfen gan ganolbwyntio ar ei gysylltiadau a'i agwedd at Gymru. Yn y sgwrs, 'Richard Burton: Seren Cymru?', bydd Gethin yn edrych o'r newydd ar y dystiolaeth a gasglodd wrth ysgrifennu ei fywgraffiad o'r actor 25 mlynedd yn ôl, ac yn trafod perthynas gymhleth Richard â'i famwlad. Bryd hynny, fe awgrymodd mai Richard oedd y llysgennad gorau oedd Cymru wedi'i gael erioed: a ydy'r asesiad hynny dal yn wir?
I gofrestru, ewch i wefan ein ffrindiau ym Menter Caerdydd: https://mentercaerdydd.cymru/event/sgwrs-y-mis-tachwedd-2025-cy