Plant
Amrywiaeth o weithgareddau a chlybiau gan gynnwys ein cynllun chwarae agored yn ystod y gwyliau.
*Trwy gyfrwng y Gymraeg* Ymunwch â ni a Technocamps am sesiwn hwyliog a chreadigol i blant ym Mlynyddoedd 3–6! Bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i blant ddysgu sut i greu eu gêm fideo eu hunain, gan ddatblygu sgiliau digidol a chael hwyl ar yr un pryd. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 3 Hydref rhwng 10:00 a 12:00 yn Ysgol Sant Baruc, a dim ond £3 yw’r gost.
Pris: £3
*Trwy Gyfrwng y Gymraeg* Paratowch i adeiladu, codio a chreu gyda LEGO® SPIKE! Ymunwch â’n Clwb Dyfeiswyr cyffrous, sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer plant yn flynyddoed 3-6. Gall dyfeiswyr archwilio creadigrwydd, datrys problemau a thechnoleg drwy weithgareddau ymarferol a hwyliog. Bydd y plant yn cael cyfle i adeiladu eu creadigaethau eu hunain, arbrofi gyda chodio syml a dod â’u syniadau’n fyw mewn amgylchedd cyfeillgar a llawn hwyl. Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 24 Hydref 2026, 10am–12pm yn Ysgol Sant Baruc – dim ond £3 y plentyn!
Pris: £3
Ymunwch â ni am 6 wythnos o hwyl, dawns, drama a chreadigrwydd! Cyfle i fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd hwyliog a chefnogol.
Join us for 6 weeks of fun, dance, drama and creativity! Build confidence, make new friends and enjoy using Welsh in a fun and supportive environment.
Pris: £45
Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae mynediad agored sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg yn ystod pob gwyliau ysgol. Ein nod yw darparu profiad chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant a phobl ifanc, gan gefnogi eu datblygiad drwy chwarae rhydd ac arloesol.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ac angerdd dros chwarae, dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu’n gadarnhaol at les a datblygiad plant yn eich ardal leol.
Fel aelod o dîm Bwrlwm, byddwch yn rhan o raglen fywiog sy’n hyrwyddo chwarae o safon uchel, cydweithio tîm, ac ymrwymiad i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol i bob plentyn.
Pris: Am Ddim