Holiadur Bwrlwm Haf 2026
Wedi bod i Bwrlwm? Mae eich barn yn bwysig!
Treuliwch ychydig funudau yn cwblhau ein holiadur byr a helpwch ni i wneud Bwrlwm hyd yn oed yn well.
https://forms.gle/adoe8cg8LDMcmXHY7
Diolch
Pris: Am Ddim
Gweithgareddau Awyr Agored Haf 2026
Pris: Am Ddim
Gig: Shwmae y Fro
Miwsig go iawn, egni go iawn, a thocynnau bargen o flaen llaw ar gael nawr.
Pris: £4
Clwb Dawns a Drama
Ymunwch â ni am 6 wythnos o hwyl, dawns, drama a chreadigrwydd! Cyfle i fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd hwyliog a chefnogol.
Join us for 6 weeks of fun, dance, drama and creativity! Build confidence, make new friends and enjoy using Welsh in a fun and supportive environment.
Pris: £45
Ymweliad: Arddangosfa 'Ffasiwn'
Ymweliad â'r arddangosfa ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Pris: Am Ddim
Sesiynau Sgwrsio yn y Fro
Cyfle i sgwrsio mewn sesiynau anffurfiol gyda Dysgu Cymraeg y Fro.
Pris: Am Ddim
Chwilio am Swydd? Bwrlwm 2026
Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae mynediad agored sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg yn ystod pob gwyliau ysgol. Ein nod yw darparu profiad chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant a phobl ifanc, gan gefnogi eu datblygiad drwy chwarae rhydd ac arloesol.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ac angerdd dros chwarae, dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu’n gadarnhaol at les a datblygiad plant yn eich ardal leol.
Fel aelod o dîm Bwrlwm, byddwch yn rhan o raglen fywiog sy’n hyrwyddo chwarae o safon uchel, cydweithio tîm, ac ymrwymiad i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol i bob plentyn.
Pris: Am Ddim
Gig: Steve Eaves a Rhai Pobl
DYDDIAD NEWYDD!
Gig unigryw gyda Steve Eaves a Rhai Pobl gyda Melda Lois
Pris: £18