Pris: Am Ddim
Sgwrs am Gyfraith Hywel Dda.
Yr Athro Sara Elin Roberts fydd gwestai Sgwrs y Mis y tro hwn.
Testun ei sgwrs bydd Cyfraith Hywel, system gyfreithiol Cymru'r Oesoedd Canol. Roedd hon yn system arbennig i Gymru, wedi ei chreu gan gyfreithwyr ar gyfer cyfreithwyr, a'r bwriad y tu ôl i'r gyfraith oedd sicrhau bod y gymdeithas yn gweithio yn esmwyth, a chadw perthynas rhwng pobl.
Ceir felly llu o enghreifftiau o fywyd bob dydd ac ymwneud pobl â'i gilydd, a chawn olwg ar rai o'r golygfeydd hyn yn ystod y drafodaeth. Er ei fod yn adlewyrchu cyfnod sy'n bell yn ôl, mae Cyfraith Hywel yn dangos mai'r un yw pobl ar hyd yr oesoedd. (Awgrymir cyfraniad o £5 y sgwrs)
Yn addas ar gyfer dysgwyr Uwch/Gloywi.
Gellir cofrestru ar wefan Menter Caerdydd: https://mentercaerdydd.cymru/event/sgwrs-y-mis-medi-cy
