Pris: Am Ddim

Natur a chanfyddiad lliw fydd dan sylw yn sgwrs mis Mai.  Awn ar daith o gyfnod yr Hen Roegiaid trwy fyd ffasiwn a fideo, i'r ymchwil diweddaraf i'r ymennydd. A ydym i gyd yn canfod yr un lliwiau? Bydd Kyffin Williams a'i brofiad o epilepsi yn rhan fach o'r hanes, heb sôn am ddawn ambell ferch i weld lliwiau mewn dimensiwn gwahanol i'r gweddill ohonom.

 

I gofrestru neu gyfrannu at gynllun Sgwrs y Mis, ewch i: https://mentercaerdydd.cymru/event/sgwrs_y_mis_mai_zoom/29

Sgwrs y Mis: Mai (ZOOM)