Pris: Am Ddim

Mae Myrddin yn enwog trwy'r byd i gyd fel y dewin doeth sy'n cynghori'r Brenin Arthur. Ond tybed ai dyma'r stori gyfan? Yn sgwrs mis Ebrill, bydd Dr David Callander o Brifysgol Caerdydd yn datgelu gwedd arall ar Myrddin a gawn mewn barddoniaeth gynnar Gymraeg. Yma mae Myrddin yn broffwyd ac yn ddyn gwyllt yn byw yn y coed ac Arthur yn gwbl absennol. 

Gellir cofrestru a chyfrannu rhodd at y cynllun ar wefan ein partneriaid Menter Caerdydd:

Cofrestru ar gyfer Sgwrs y Mis

Sgwrs y Mis: Ebrill