Pris: £10

Mae’n bleser cyhoeddi taith newydd gan Lleuwen. Mae’r daith yn rhan o brosiect ar y cyd gan PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru: prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good a Gwilym Bowen Rhys Trio.

Mae gwreiddiau Lleuwen Steffan yn Rhiwlas, Gwynedd er ei bod bellach yn byw yn Llydaw.  Mae’n gantores ac yn gyfansoddwraig o fri sydd wedi ennill Gwobr Gwerin Cymru am Gân Wreiddiol orau yn ogystal â gwobr Priziou France 3 am yr Albwm Orau.

Mae’n siarad Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Saesneg yn rhugl, ac wedi ei disgrifio fel un â “llais o harddwch cynhenid Cymreig, sy’n nefolaidd ac yn ddaearol ar yr un pryd”.

Bydd yr artist Erin Lancaster hefyd yn perfformio set i gefnogi ar y noson agoriadol, a’r cyfan o fewn awyrgylch hyfryd 96 Degrees yn y Bontfaen sy'n cynnig dewis o ddiodydd alcohol a choffi o safon.

Lleuwen
Eich Manylion: