Pris: £5

Pris (Gostyngedig): Am Ddim

Digwyddiad Cymraeg newydd yng nghalendr Bro Morgannwg wrth i ni ddathlu Haf Fach Mihangel yng ngardd eang y Three Horseshoes yn Moulton ar gyrion y Barri.

Yn ogystal â llwyfan yn llawn o berfformiadau hyfryd gan artistiaid fel Rose Datta, Alis Glyn, Popeth a’r Gerddorfa Ukulele, bydd ambell gôr cymunedol a chynrychiolaeth o ysgolion y sir hefyd yn ymuno yn yr hwyl.

Ac os nad yw’r gerddoriaeth, y cymdeithasu, amser stori i’r rhai iau ac ardal chwarae i blant yn ddigon, yna bydd Dragon Bars yn darparu dewis eang o fwyd a diod.

Ymunwch â ni a’n partneriaid Dysgu Cymraeg y Fro, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant a’r Urdd ar Fedi 19 rhwng 2pm a 6pm.

Mynediad: £5 oedolion, am ddim o dan 16.

Gŵyl Fach Mihangel
Mynychwyr: