Helo Blod yw’r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!
Mae cyngor ar gael ar gyfer helpu gyda :
- cyfieithu am ddim o destunau hyd at 500 gair y mis – o’r Saesneg i’r Gymraeg
- gwirio testunau Cymraeg hyd at 1,000 gair y flwyddyn
- marchnata a hyrwyddo eich busnes i’r gymuned Gymraeg
- gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid a recriwtio siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg
- gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn eich busnes ac agor y drws i sgyrsiau a chwsmeriaid newydd
- eich cyflwyno i rwydweithiau lleol sy’n gallu cefnogi eich busnes
- eich cyfeirio di at fusnesau yn eich ardal fel bod modd I chi fod yn rhan o rwydwaith o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn busnes
- helpu chi a’ch tîm ddysgu ychydig o eiriau Cymraeg – neu fwy.