Pris: Am Ddim

Sgwrs gan Dr Hywel M Davies am ei lyfr newydd wedi'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.

Llyfr newydd am y Goresgyniad yn Sir Benfro ym 1797 fydd dan sylw yn ein sgwrs Zoom nesaf.  Bydd yr awdur, Dr Hywel M Davies, yn canolbwyntio ar fywydau tair menyw oedd yn ganolog i’r digwyddiadau; Jemima Nicholas, Nansi Jones, a Mary Williams. Wrth olrhain eu hanes, cawn ddod i ddeall ochr ddifrifol a threisgar y Goresgyniad sydd yn aml yn cael ei bortreadu fel digwyddiad chwedlonol, lled-gomig.  Bydd y cyflwyniad yn amlygu argraff gymdeithasol a diwylliannol goresgyniad Ffrainc mewn cyd-destun hanesyddol. Yn ogystal, cawn glywed sut  ysbrydolodd Goresgyniad y Ffrancwyr ffigurau llenyddol gwahanol iawn eu naws - o Wilkie Collins i Ceiriog a Harri Webb.

Gofynnwn yn garedig am gyfraniadau gwirfoddol tuag at gostau rhedeg cynllun Sgwrs y Mis.

Ewch i wefan ein partneriaid, Menter Caerdydd, i gofrestru: https://mentercaerdydd.cymru/event/sgwrs_y_mis_mawrth_2025/29

Sgwrs y Mis (Mawrth) - ZOOM